Mandriva Linux

           Cyfarwyddiadau Gosod - Mandriva Linux 2007

   Ffurfweddiad Angenrheidiol
     * Prosesydd Pentium neu gyfatebol
     * Gyrrwr CDROM
     * O leiaf 32 MB RAM, argymhellir 64 MB

   Mae gosod Mandriva Linux, yn y rhan fwyaf o achosion mor syml â
   rhoi eich CD Gosod yn eich gyrrwr CDROM, ac ail gychwyn eich
   peiriant. Darllenwch bwynt 1.

   SYLW:

    * Os ydych yn uwchraddio o fersiynau Mandriva Linux 7.x,
      8.x neu 9.x peidiwch anghofio a gwneud copi o'ch system
      wrth gefn.
    * NID oes cefnogaeth i uwchraddio fersiynau cynt (cyn 7.0).
      Yn yr achosion hynny, gwnewch osodiad newydd ac nid uwchraddio.

============================================================================

   Dyma ffyrdd gwahanol i osod Mandriva Linux:

    1. Cychwyn yn syth o'r CD
    2. Gwneud disg cychwyn gyda Windows
    3. Dulliau eraill o osod

============================================================================

  1. Cychwyn yn syth o'r CD

   Mae modd cychwyn y gosodiad drwy'r CDROM Gosod. Yn yr rhan fwyaf o
   achosion, rhowch y CD yn y gyrrwr ac ail gychwyn y peiriant.
   Dilynwch y cyfarwyddid ar y sgrin: pwyswch [Enter] i gychwyn gosod,
   neu [F1] am gymorth pellach.

   SYLW:

   Ar rai cyfrifiaduron symudol, efallai na fydd y system yn ailgychwyn
   o'r CD. Os mae hyn yn digwydd, ceisiwch gychwyn o'r ail CD: mae modd
   cychwyn o hwnnw hefyd, ac mae'n defnyddio trefn 'mwy diogel'. Pan fydd
   yn gofyn amdano, newidiwch yr CD. Os nad yw'r ail CD yn cychwyn chwaith,
   dylech baratoi disg cychwyn.  Gweler pwynt 2 am fanylion.

============================================================================

  2. Gwneud disg cychwyn gyda Windows

   Os nad yw eich cyfrifiadur yn medru cychwyn gyda'r CDROM
   ac ni wnaeth y dulliau blaenorol weithio, rhaid i chi wneud disg
   cychwyn gyda Windows.
   Dyma sut mae gwneud:

    * rhowch y CDROM yn y gyrrwr, cliciwch ar eicon "My Computer",
      clic de ar eicon gyrrwr y CD a dewis "Open"
    * mynd i gyfeiriadur "dosutils" a rhoi clic dwbl
      ar eicon "rawwritewin"
    * rhowch ddisg meddal gwag yn ei yrrwr
    * dewiswch "D:\images\cdrom.img" ym maes "Image File"
      (gan gymryd mae "D" yw eich CDROM, neu newidiwch ef yn ôl y galw)
    * dewiswch "A:" ym maes "Floppy Drive" ac yna clicio "Write".

   I gychwyn y gosodiad:

    * rhoi'r CDROM yn y gyrrwr, yn ogystal â'r disg cychwyn, ac yna
    * ail gychwyn y cyfrifiadur.

============================================================================

  3. Dulliau eraill o osod

   Os am unrhyw reswm nid yw'r dulliau blaenorol yn ateb eich angen
   (rydych am wneud gosodiad rhwydwaith, gosod o ddyfais pcmcia neu...),
   bydd angen i chi hefyd wneud disg cychwyn:

    * O dan Linux (neu unrhyw system UNIX fodern) teipiwch wrth
      yr anogwr:
      $ dd if=xxxxx.img of=/dev/fd0
    * O dan Windows, dilynwch y dull disgrifiwyd ym mhwynt 2,
      ond gan ddefnyddio xxxxx.img (gweler isod) yn lle cdrom.img.
    * O dan DOS, gan gymryd mai D yw gyrrwr eich CD, teipiwch:
      D:\> dosutils\rawrite.exe -f install\images\xxxxx.img -d A

   Lle mae xxxxx.img yn un o'r delweddau cychwyn:

  +-----------------+------------------------------------------------------+
  | cdrom.img       | gosod o'r CD-ROM                                     |
  +-----------------+------------------------------------------------------+
  | hd_grub.img     | gosod o'r disg caled (system ffeilio Linux,          |
  |                 | Windows, neu ReiserFS filesystem)                    |
  |                 | gallwch ei ffurfweddu ar gyfer eich system yn:       |
  |                 | http://qa.mandriva.com/hd_grub.cgi               |
  +-----------------+------------------------------------------------------+
  | network.img     | gosod o ftp/nfs/http                                 |
  |                 | SYLW: bydd angen mewnosod network_drivers.img        |
  |                 | yn yrrwr eich disg meddal pan fydd cais              |
  +-----------------+------------------------------------------------------+
  | pcmcia.img      | gosod o ddyfeisiau pcmcia (rhybudd, mae' rhan fwyaf  |
  |                 | o addaswyr rhwydwaith pcmcia yn cael eu cynnal       |
  |                 | gan network.img)                                     |
  +-----------------+------------------------------------------------------+

   Gallwch hefyd losgi boot.iso ar CDROM a chychwyn ohono.
   Mae'n cynnal pob dull gosod, cdrom, rhwydwaith a disg caled.

============================================================================

   Mae modd ii chi hefyd ddefnyddio'r modd testun i osod os
   ydych yn cael anhawster, am ryw reswm, gyda'r gosod graffigol
   rhagosodedig. I'w ddefnyddio pwyswch [F1] wrth sgrin croesawu
   Mandriva Linux, ac yna teipiwch text wrth yr anogwr.

   Os fyddwch byth angen achub eich system Mandriva Linux,
   rhowch eich CDROM Gosod (neu'r disg cychwyn perthnasol) yn y peiriant,
   pwyswch [F1] wrth sgrin croesawu Mandriva Linux, ac yna
   teipiwch rescue wrth yr anogwr.

   Gweler http://www.mandrivalinux.com/drakx/README
   am ragor o wybodaeth dechnegol.

============================================================================

  Prif gamau'r gosodiad:

   1. Rhowch eich CDROM Gosod neu (neu ddisg cychwyn, yn ôl y galw) ac
      ail gychwyn eich peiriant.
   2. Pwyswch [Enter] pan fydd sgrin croesawu Mandriva Linux yn
      ymddangos a dilynwch y cyfarwyddiadau'n ofalus.
   3. Pan fydd y gosodiad wedi ei gwblhau tynnwch y CD o'r peiriant pan
      fydd wedi cael ei fwrw allan (ac unrhyw ddisg meddal os yw'n
      y gyrrwr); bydd eich peiriant yn ail gychwyn. Os nad, cychwynnwch
      y peiriant gyda llaw.
   4. Bydd Mandriva Linux yn cychwyn. Ar ôl iddo gychwyn bydd
      modd i chi fewngofnodi o dan eich enw eich cyfrif
      neu fel "gwraidd" (root).

   Nodyn pwysig:

   Mae'r cyfrif "gwraidd" ("root") yn rhoi mynediad dilyffethair i'ch system
   Linux. Peidiwch â'i ddefnyddio oni bai eich bod eisiau ffurfweddu neu
   weinyddu Linux. Ar gyfer defnydd bob dydd. Mae modd ffurfweddu'r cyfrif
   gyda "userdrake", neu gyda gorchmynion "adduser" a "passwd".

                     Pob hwyl gyda Mandriva Linux!

============================================================================

   Am gefnogaeth gyda'r gosod, gweler rhestr wybodaeth Mandriva Linux
   a'r FAQs ar safle gwe:

    * E-Gymorth yn http://www.mandrivaexpert.com/
    * Mandriva Linux Errata yn 
      http://www.mandrivalinux.com/en/errata.php3
    * Mandriva Linux Security Advisories yn 
      http://www.mandriva.com/security/advisories/
    * Dogfennau Ar-lein yn http://www.mandrivalinux.com/en/fdoc.php3
    * Darllen ac ymuno gyda Fforymau Trafod Mandriva Club yn 
      http://club.mandriva.com
    * Ymuno â'r Rhestrau E-hebu yn 
      http://www.mandrivalinux.com/en/flists.php3
    * Archifau Chwiliadwy E-bostio yn at 
      http://marc.theaimsgroup.com/
    * Chwilio'r Rhyngrwyd gan ddefnyddio Google yn 
      http://www.google.com/linux
    * Chwilio Usenet Groups gan ddefnyddio Grwpiau Google yn 
      http://groups.google.com/groups?group=comp

============================================================================